TrC yn Lansio Hyb Menywod mewn Trafnidiaeth | TfW launch Women in Transport Hub

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi partneru â Menywod mewn Trafnidiaeth i lansio Hyb Cymreig newydd a fydd yn grymuso menywod yn y diwydiant i wneud y gorau o’u potensial.

Datgelodd ffigurau diweddar bod y sector trafnidiaeth yn destun bwlch sylweddol rhwng y rhywiau gyda menywod yn cyfrif am ddim ond 20% o weithlu’r Diwydiant Trafnidiaeth a Chyfathrebu yng Nghymru.

Bydd yr Hyb Cymreig newydd yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o gefnogi’r gweithlu benywaidd presennol ymhellach a ffyrdd o annog mwy o fenywod i ymuno â'r diwydiant trwy helpu i gael gwared ar unrhyw rwystrau cymdeithasol.

Fel rhan o’r lansiad, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu ymchwil a gynhaliwyd gan Chwarae Teg i fapio ble mae menywod yn gweithio yn y sector trafnidiaeth yng Nghymru ac i ddeall eu profiadau.

Dengys yr ymchwil bod menywod yn arbennig wedi'u tangynrychioli yn y grwpiau galwedigaethol a gysylltir yn draddodiadol â dynion, yn enwedig ymhlith peirianwyr, cynnal a chadw cerbydau a gyrwyr.  Bydd y bartneriaeth newydd nawr yn defnyddio'r data hwn i lywio eu gwaith a rhoi newid cadarnhaol ar waith yn y diwydiant trafnidiaeth ledled Cymru.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd: 

“Mae galw mawr am bobl i weithio yn y sector trafnidiaeth a logisteg.  Ar gyfartaledd mae tua 4,500 o swyddi gwag ym maes trafnidiaeth a logisteg yn cael eu hysbysebu ar-lein bob mis yng Nghymru.  Mae'n rhyfeddol felly mai dim ond 20% o'r gweithlu sy'n fenywod.

Dyna pam rwy’n falch ein bod wedi gallu noddi’r darn hwn o waith sy’n edrych ar y rhwystrau a’r heriau sy’n wynebu menywod sy’n ymuno â’r gweithlu a sut y gellir eu goresgyn.”

Ychwanegodd Jo Foxall, y Cyfarwyddwr Ymgysylltu â Chwsmeriaid yn Trafnidiaeth Cymru ac Arweinydd Menywod mewn Trafnidiaeth Cymru: 

“Mae wedi bod yn wych lansio Hwb Cymru Menywod mewn Trafnidiaeth a gweld cymaint o bobl yn mynychu ac yn cefnogi’r digwyddiad.

“Yn Trafnidiaeth Cymru, rydym yn adeiladu gweithlu cynhwysol ac amrywiol ac rydym yn cydnabod bod angen i’n rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ddarparu ar gyfer y cyhoedd amrywiol a bod yn gynhwysol i bawb.

“Rwyf wedi gweithio yn y sector trafnidiaeth ers 18 mlynedd ac rwy’n angerddol iawn am annog mwy o fenywod i ymgymryd â rolau yn y sector trafnidiaeth, rolau rheng flaen traddodiadol gwrywaidd yn ogystal â mwy o swyddi arwain a gwneud penderfyniadau.” 


Transport for Wales (TfW) has partnered with Women in Transport to launch a new Welsh Hub that will empower women in the industry to maximise their potential.

Recent figures reveal that the transport sector is subjected to a significant gender gap with women making only 20% of the workforce of the Transport and Communications Industry in Wales.

The new Welsh Hub will look at how they can further support the current female workforce and how they can encourage more to the industry through helping remove any social barriers.

As part of the launch, Welsh Government has funded research that was carried out by Chwarae Teg to map out where women are working in the transport sector in Wales and to understand their experiences.

The research shows that women are notably under-represented in the occupational groups traditionally associated with men, particularly among engineers, vehicle maintenance and drivers.  The new partnership will now use this data to inform their work and implement positive change in the transport industry across Wales.

The Minister for Climate Change, Julie James said:

“There is a high demand for people to work in the transport and logistics sector. On average around 4,500 job vacancies in transport and logistics are posted online each month in Wales. It is therefore remarkable that women only make up 20% of the workforce.

That is why I am pleased we have been able to sponsor this piece of work which looks at the barriers and challenges facing women entering the workforce and how they can be overcome.”

Jo Foxall, Customer Engagement Director at Transport for Wales and Wales Lead for Women in Transport added:

“It’s been great to launch the Wales Hub for Women in Transport and to see so many people attend and support the event.

“At Transport for Wales, we’re building an inclusive and diverse workforce and we recognise that our public transport network needs to cater for the diverse public and be inclusive for all.

“I’ve worked in the transport sector for 18 years and I’m extremely passionate about encouraging more women to take up roles within the transport sector in both traditionally male front line roles as well as more leadership and decision-making positions.”  


 
 
Source: https://news.tfw.wales/news/tfw-launch-wom...